Learn how to make the most of our resources, training, events and awards. Join an info session

Cynllun grantiau bach newydd wedi’i lansio i helpu eglwysi yng Nghymru i fynd i’r afael ag unigrwydd / New small grants scheme launched to help churches in Wales tackle loneliness

Jump to English

Cymraeg

Mae Befriending Networks a Linking Lives UK wedi lansio Cynllun Grantiau Bach Cysylltiad Cymdeithasol, sydd â’r nod o gefnogi eglwysi a mudiadau sy’n gydnaws â Christnogaeth yng Nghymru i ymateb i unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn eu cymunedau lleol.

Mae’r cynllun yn cynnig grant arian parod bach ochr yn ochr â dwy flynedd o hyfforddiant, adnoddau a chymorth prosiect wedi’i deilwra. Mae ar agor i eglwysi, mentrau dan arweiniad eglwysi a mudiadau Cristnogol ledled Cymru, boed nhw’n meithrin syniad newydd, yn datblygu gweithgarwch presennol, neu’n cryfhau gwaith anffurfiol sy’n digwydd eisoes.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael dwy flynedd o aelodaeth o Befriending Networks a dwy flynedd o gymorth partneriaeth gan Linking Lives UK, gan gynnwys hyfforddiant i gydlynwyr a gwirfoddolwyr, cymorth cynllunio, adnoddau ymarferol a chyfleoedd i ddysgu gan gyfoedion.

Meddai Susan Hunter, Prif Weithredwr Befriending Networks:

‘Mae’r cynllun yma’n tynnu ynghyd 30 mlynedd o brofiad Befriending Networks o gefnogi gwasanaethau cyfeillio ac arbenigedd Linking Lives UK mewn creu partneriaethau ag eglwysi er mwyn sefydlu cynlluniau cyfeillio newydd. Rydyn ni’n falch iawn o allu cynnig y cyfle yma ac rydyn ni’n edrych ymlaen i gefnogi prosiectau gwych sy’n gwneud gwaith pwysig yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.’

Meddai Simon Betteridge, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Linking Lives UK:

‘Mae Linking Lives yn cydnabod swyddogaeth a chyfraniad eglwysi a mudiadau Cristnogol tuag at gryfder cymunedau a chysylltiadau cymdeithasol. Rydw i wir yn annog ceisiadau i’r cynllun yma, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gael dod â mwy o gefnogaeth i brosiectau yng Nghymru!’

Mae’r ceisiadau ar agor erbyn hyn a byddan nhw’n cau ar 28 Chwefror 2026, gyda grantiau’n cael eu talu i brosiectau llwyddiannus erbyn diwedd mis Mawrth 2026.

Dysgwch ragor a gwnewch gais

English

Befriending Networks and Linking Lives UK have launched the Social Connection Small Grants Scheme, designed to support churches and Christian-aligned organisations in Wales to respond to loneliness and social isolation in their local communities.

The scheme offers a small cash grant alongside two years of training, resources, and tailored project support. It is open to churches, church-led initiatives and Christian organisations across Wales, whether they are nurturing a new idea, growing an existing activity, or strengthening informal work already taking place.

Successful applicants will receive two years’ membership of Befriending Networks and two years of partnership support from Linking Lives UK, including training for coordinators and volunteers, planning support, practical resources and peer learning opportunities.

Susan Hunter, CEO of Befriending Networks, said:

‘This scheme brings together Befriending Networks’ 30 years of experience supporting befriending services with Linking Lives UK’s expertise in partnering with churches to establish new befriending schemes. We’re really excited to be able to offer this opportunity and are looking forward to supporting great projects doing important work tackling loneliness and social isolation.’

Simon Betteridge, National Director of Linking Lives UK, said:

‘Linking Lives recognises the role and contribution of churches and Christian organisations to the strength of communities and the creation of social connection. I really encourage applications to this scheme and we’re really looking forward to supporting Welsh  projects in the years ahead. ’

Applications are now open and close on 28 February 2026, with grants paid to successful projects by the end of March 2026.

Find out more and apply

Subscribe to our Befriending Networks Newsletter

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Name(Required)
AgencyForGood

Copyright 2026. All Rights Reserved

0
    0
    Your Cart
    Your cart is emptyReturn to Shop
    Skip to content